100 o ddelweddau o gelfyddyd o Gymru – I’r rhai o bob oedran sy’n hoffi celfyddyd.

Casgliad Celf Cymru
Mae’r set yma o dros 100 o gardiau A6
(maint cerdyn post) wedi cael eu cynllunio i’w defnyddio mewn unrhyw ystafell ddosbarth.
Mae delwedd wahanol ar bob cerdyn, ac amrywiaeth o gwestiynau i ddisgyblion ar y cefn.
Mae’r prosiect yn cynnig adnodd amhrisiadwy
i athrawon, o arbenigwyr pwnc i’r rheiny sy’n addysgu celf a dylunio am y tro cyntaf.
Mae’r holl gardiau A6 ac A3
wedi cael eu lamineiddio i ddiogleu’r cardiau
yn yr ystafell ddosbarth a sicrhau y byddant yn cael oes hir a defnyddiol.
Mae ein prosiect celf blaenorol wedi cael
ei ddefnyddio yn ystafelloedd dosbarth Cymru
ers bron 20 mlynedd.
Mae pob elfen o’r prosiect hwn
yn hollol ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg)
mewn fformat hawdd i’w ddarllen.
Amrywiaeth o artistiaid
Ymysg yr artistiaid sydd wedi’u cynnwys mae:
JWM Turner, Charles Tunnicliffe, Stanley Spencer,
Iwan Bala, John Piper, David Nash, David Jones,
Kevin Sinnott, JD Innes.
Cwestiynau i ddisgyblion
Mae pob cerdyn yn cynnwys delwedd wahanol ac enwau’r artistiaid, teitlau, dyddiadau a.y.y.b. a chwestiynau i ddisgyblion ar y cefn.
Mae’r cwestiynau’n addas ar gyfer CA2 – 4.
Gwydn a hirbarhaol
Caiff y set o gardiau A6 eu gwerthu mewn
blwch plastig cryf.
Cliciwch yma i weld PDF o ddwy ochr y cardiau A6.
EWCH I’R MAN TALU
Cardiau A6 – Casgliad Celf Cymru